Developing Supply Chains | Datblygu cadwyni cyflenwi

Amdanom Ni

Bydd Garddwriaeth Cymru yn darparu cefnogaeth fanwl ac arbenigol er mwyn hybu effeithlonrwydd busnesau sy’n ymwneud â chadwynau cyflenwi garddwriaeth bwyd a mwynderau yng Nghymru.

Beth yw Garddwriaeth Cymru?

Bydd gwaith Garddwriaeth Cymru yn canolbwyntio ar bump prif faes:

  • Gwybodaeth am y Gadwyn Gyflenwi

  • Brandio a Marchnata

  • Cysylltiadau â’r Gadwyn Gyflenwi

  • Gweithlu’r Gadwyn Gyflenwi

  • Arfer Amgylcheddol Gorau

Gallwn eich helpu trwy:
 

  • Fod yn gyfeirbwynt canolog ar gyfer busnesau garddwriaeth Cymreig a darparu gwefan hawdd ei defnyddio i bawb.
     
  • Darparu gwybodaeth a gwybodaeth am y farchnad er mwyn dynodi a gwerthuso cyfleoedd marchnata o fewn cadwynau cyflewni garddwriaethol.
     
  • Datblygu brandiau er mwyn helpu i gwrdd â’r galw am gynnyrch Cymreig. Ysgogi arloesedd a chyflwyno cynnyrch newydd yn ogystal â datblygu cynnyrch a marchnadoedd sy’n bodoli’n barod.
     
  • Hyrwyddo cydweithrediad rhwng pob rhan o gadwynau cyflenwi.
     
  • Darparu rôl faethu i gymunedau lleol a chyflenwyr lleol wrth wneud cyfraniadau i gadwynau cyflenwi.
     
  • Annog arfer gorau amgylcheddol a chynaliadwyedd o fewn cadwynau cyflenwi garddwriaethol

 

Yn Garddwriaeth Cymru, mae ein partneriaid yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr, ADAS, y Ganolfan Defnydd Tir Amgen ym Mhrifysgol Bangor a Chanolfan Organig Cymru. Bydd y prosiect yn rhedeg hyd at fis Tachwedd 2013.